28 Oherwydd y mae'r drwg yr wyt yn fy holi i amdano wedi ei hau, ond ni ddaeth amser ei fedi ef eto.
29 Hyd oni fedir yr hyn a heuwyd, a hyd oni ddiflanna'r lle yr heuwyd y drwg ynddo, nid ymddengys y maes lle'r heuwyd y da.
30 Heuwyd gronyn o had drwg yng nghalon Adda o'r dechreuad, a pha faint o annuwioldeb y mae eisoes wedi ei gynhyrchu, ac y bydd eto'n ei gynhyrchu hyd nes y daw amser dyrnu!
31 Cyfrif drosot dy hun gymaint o ffrwyth annuwioldeb y mae'r gronyn o had drwg wedi ei gynhyrchu.
32 Pan fydd hadau dirifedi o rawn da wedi eu hau, mor fawr y cynhaeaf a ddaw ohonynt hwy!”
33 Atebais innau: “Pa mor hir y mae'n rhaid aros? Pa bryd y digwydd hyn? Pam mai ychydig a drwg yw'n blynyddoedd ni?”
34 Meddai ef wrthyf: “Ni elli di brysuro mwy na'r Goruchaf; er dy fwyn dy hun yr wyt ti'n prysuro, ond mae'r Goruchaf yn prysuro er mwyn llawer.