42 Oherwydd fel y mae gwraig wrth esgor yn prysuro i gael diwedd ar wewyr anorfod esgor, felly hefyd y mae'r ystafelloedd cudd yn prysuro i roi'n ôl yr hyn a ymddiriedwyd iddynt o'r dechreuad.
43 Yna fe esbonnir i ti y pethau yr wyt yn dymuno eu gweld.”
44 Atebais fel hyn: “Os wyf yn gymeradwy yn dy olwg, ac os yw'n bosibl, ac os wyf yn gymwys,
45 eglura hyn i mi hefyd: a oes mwy i ddod nag a aeth heibio, neu a yw'r rhan fwyaf eisoes wedi mynd heibio i ni?
46 Oherwydd gwn beth sydd wedi mynd, ond ni wn beth sydd eto i ddod.”
47 Meddai yntau wrthyf: “Saf ar y llaw dde i mi; fe rof finnau ddehongliad iti o'r pos.”
48 Felly sefais a gwylio, a dyma ffwrn danllyd yn mynd heibio imi; ac ar ôl i'r fflamau fynd heibio, edrychais a gweld bod mwg yn aros.