10 bydd llawer yn ei geisio ac yn methu ei gael; bydd anghyfiawnder ac anlladrwydd ar gynnydd dros wyneb y ddaear.
11 Bydd y naill wlad yn holi'r llall fel hyn: ‘A yw cyfiawnder, sy'n gwneud yr hyn sydd iawn, wedi tramwy trwot ti?’ A'r ateb fydd, ‘Nac ydyw.’
12 Y pryd hwnnw bydd pobl yn gobeithio, ond ni welant gyflawni eu gobeithion; yn llafurio, ond ni bydd eu ffyrdd yn llwyddo.
13 Dyna'r arwyddion y caniatawyd i mi eu hadrodd wrthyt; ond os bydd iti weddïo eto, a pharhau i wylo ac ymprydio am saith diwrnod, yna cei glywed ymhellach bethau myw na'r rhain.”
14 Yna deffrois, a'm corff yn crynu drwyddo; yr oeddwn mor drallodus fy meddwl fel y llewygais.
15 Ond daeth yr angel a fu'n ymddiddan â mi i'm cynnal a'm nerthu i sefyll ar fy nhraed.
16 Y noson wedyn daeth Phaltiel, arweinydd y bobl, ataf a dweud: “Ble buost ti? A pham y mae golwg drist arnat?