15 Ond daeth yr angel a fu'n ymddiddan â mi i'm cynnal a'm nerthu i sefyll ar fy nhraed.
16 Y noson wedyn daeth Phaltiel, arweinydd y bobl, ataf a dweud: “Ble buost ti? A pham y mae golwg drist arnat?
17 A wyt yn anghofio bod Israel, yng ngwlad ei halltudiaeth, wedi ei hymddiried i ti?
18 Cod, felly, a bwyta ychydig fara; paid â'n gadael ni, fel bugail yn gadael ei braidd yng ngafael bleiddiaid milain.”
19 Dywedais innau wrtho: “Dos ymaith oddi wrthyf, ac am saith diwrnod paid â dod yn agos ataf; yna fe gei ddod ataf eto.” Ar ôl clywed fy ngeiriau aeth ef ymaith a'm gadael.
20 Am saith diwrnod bûm yn ymprydio, yn galaru ac yn wylo, fel y gorchmynnodd yr angel Uriel i mi.
21 Ymhen y saith diwrnod yr oedd meddyliau fy nghalon yn peri blinder mawr i mi unwaith eto,