23 “Arglwydd Iôr,” meddwn, “o bob coedwig drwy'r ddaear, ac o blith ei holl brennau yr wyt ti wedi dewis un winwydden;
24 o'r holl diroedd drwy'r byd cyfan dewisaist i ti dy hun un man i'w phlannu ynddo; o'r holl flodau sydd yn y byd dewisaist un lili i ti dy hun;
25 o holl ddyfnderoedd y môr llenwaist un afon i ti, ac o'r holl ddinasoedd a adeiladwyd cysegraist Seion i ti dy hun;
26 o'r holl adar a grewyd penodaist un golomen i ti dy hun, ac o'r holl anifeiliaid a luniwyd darperaist un ddafad ar dy gyfer dy hun;
27 o'r holl bobloedd, yn eu lluosogrwydd, mabwysiedaist un bobl i ti dy hun, ac i'r bobl hynny yr ymserchaist ynddynt rhoddaist gyfraith gymeradwy gan bawb.
28 Pam ynteu, Arglwydd, yr wyt yn awr wedi traddodi'r un bobl hon i ddwylo llaweroedd? Pam y dirmygaist yr un gwreiddyn yn fwy na'r lleill i gyd, ac y gwasgeraist dy unig bobl ymhlith lliaws?
29 Y mae'r rhai a fu'n gwrthod dy addewidion wedi sathru â'u traed y rhai a fu'n ymddiried yn dy gyfamodau.