3 Anghyfannedd a di-lwybr fydd y wlad yr wyt yn awr yn ei gweld yn teyrnasu; diffeithwch fydd hi yng ngolwg pobl.
4 Os caniatâ'r Goruchaf i ti fyw, cei dithau weld ei therfysg ar ôl y trydydd cyfnod. Yn sydyn bydd yr haul yn cynnau liw nos, a'r lleuad liw dydd.
5 Bydd gwaed yn diferu o'r coed, y cerrig yn llefaru, y bobloedd mewn cynnwrf, a chwrs y sêr yn cael ei newid.
6 Daw yn frenin un nad yw trigolion y ddaear yn ei ddisgwyl, ac fe eheda'r holl adar ymaith.
7 Bydd y Môr Marw yn bwrw pysgod i fyny; clywir llef liw nos nad yw'r lliaws yn ei deall, er i bawb ei chlywed.
8 Bydd agennau yn ymddangos mewn llawer lle, a thân yn saethu allan ohonynt yn fynych. Bydd anifeiliaid gwylltion yn cefnu ar eu cynefin, a gwragedd misglwyfus yn esgor ar angenfilod.
9 Ceir dŵr hallt mewn ffynhonnau o ddŵr croyw, a bydd cyfeillion yn ymosod bob un ar ei gilydd; yna cuddir y synhwyrau, a chilia deall i'w guddfan;