30 Os wyt yn wir yn casáu dy bobl gymaint, dylit eu cosbi â'th ddwylo dy hun.”
31 Ar ôl imi orffen llefaru'r geiriau hyn, anfonwyd ataf yr angel a ddaethai ataf y noson flaenorol honno.
32 “Gwrando arnaf fi,” meddai, “ac fe'th ddysgaf; dal sylw, ac fe ddywedaf fwy wrthyt.”
33 “Llefara, f'arglwydd,” atebais innau.Meddai'r angel wrthyf: “Yr wyt yn drallodus iawn dy feddwl ynglŷn ag Israel. A yw dy gariad di tuag at Israel yn fwy na chariad Gwneuthurwr Israel?”
34 “Nac ydyw, f'arglwydd,” atebais innau, “ond o wir ofid y lleferais i; oherwydd yr wyf yn cael fy mhoenydio o'm mewn bob awr o'r dydd, wrth imi geisio deall ffordd y Goruchaf a dirnad rhyw ran o'i farnedigaethau ef.”
35 “Ni elli wneud hynny,” meddai wrthyf. “Pam, f'arglwydd?” atebais innau. “I ba beth, felly, y'm ganwyd? Pam na throes croth fy mam yn fedd imi? Yna ni chawswn weld poen Jacob a blinder plant Israel.”
36 Meddai ef: “Cyfrif imi y rheini sydd hyd yma heb eu geni, casgl ynghyd imi ddiferion gwasgaredig y glaw, a phâr i'r blodau a wywodd lasu unwaith eto;