46 Meddai yntau wrthyf: “Gofyn gwestiwn i groth gwraig, fel hyn: ‘Os wyt ti i esgor ar ddeg o blant, pam mai ar bob un yn ei dro y gwnei hynny?’ Gofyn iddi, gan hynny, esgor ar y deg yr un pryd.”
47 Meddwn innau: “Ni all wneud hynny; yn ei dro y digwydd pob esgor.”
48 “Felly hefyd,” atebodd ef, “i bob un yn ei dro y rhoddais i groth y ddaear i'r rheini a feichiogwyd ynddi.
49 Ni all plentyn roi genedigaeth, nac ychwaith wraig sydd bellach wedi mynd yn hen; yn yr un modd yr wyf finnau wedi trefnu ar gyfer y byd a grewyd gennyf.”
50 Yna gofynnais ymhellach fel hyn: “Gan dy fod wedi agor y ffordd imi yn awr, a gaf fi barhau i siarad â thi? A yw ein mam ni, y soniaist wrthyf amdani, yn dal yn ifanc, ynteu a yw hi eisoes yn heneiddio?”
51 Atebodd ef: “Gofyn gwestiwn fel hyn i wraig sy'n planta:
52 ‘Pam nad yw'r plant yr esgoraist arnynt yn ddiweddar yn debyg i'r rhai a anwyd yn gynharach? Pam y maent yn llai eu taldra?’