40 Yna gorchmynnaist ddwyn allan belydryn o oleuni o'th drysorfeydd, er mwyn i'th waith di ddod i'r golwg y pryd hwnnw.
41 Yr ail ddydd eto creaist ysbryd y ffurfafen, a gorchmynnaist iddo rannu a gwneud gwahaniad rhwng y dyfroedd—un rhan i gilio i fyny, a'r llall i aros islaw.
42 Y trydydd dydd gorchmynnaist i'r dyfroedd ymgasglu yn seithfed ran y ddaear, ond sychaist y chwe rhan arall a'u cadw, fel y byddai rhai ohonynt yn cael eu hau a'u trin yn wasanaeth i ti.
43 A chyn gynted ag yr aeth dy air di allan, fe wnaed y gwaith.
44 Oherwydd ar unwaith daeth ffrwythau allan yn llu aneirif, a phob math o bethau dymunol i'w blasu, ynghyd â blodau digymar eu lliw ac arogleuon persawrus tu hwnt. Dyna'r hyn a wnaed y trydydd dydd.
45 Y pedwerydd dydd gorchmynnaist ddyfod ysblander yr haul, a llewyrch y lleuad, a'r sêr yn eu trefn;
46 a gorchmynnaist iddynt wasanaethu dyn, a oedd ar fin cael ei lunio.