19 Yna cymerodd ei wraig y caead a'i osod ar geg y pydew a thaenu grawn drosto, fel nad oedd neb yn gwybod.
20 Pan ddaeth gweision Absalom at y tŷ a gofyn i'r wraig, “Ple mae Ahimaas a Jonathan?” dywedodd hithau, “Y maent wedi mynd dros y ffrwd ddŵr.” Ond er iddynt chwilio, ni chawsant mohonynt, ac aethant yn ôl i Jerwsalem.
21 Wedi iddynt fynd, daethant hwythau i fyny o'r pydew a mynd â'r neges i'r Brenin Dafydd, a dweud wrtho am groesi'r dŵr ar unwaith, oherwydd bod Ahitoffel wedi cynghori fel y gwnaeth yn eu herbyn.
22 Dechreuodd Dafydd, a'r holl bobl oedd gydag ef, groesi'r Iorddonen, ac erbyn toriad gwawr nid oedd neb ar ôl heb groesi'r Iorddonen.
23 Pan welodd Ahitoffel na chymerwyd ei gyngor ef, cyfrwyodd ei asyn a mynd adref i'w dref ei hun. Gosododd drefn ar ei dŷ, ac yna fe'i crogodd ei hun. Wedi iddo farw, fe'i claddwyd ym medd ei dad.
24 Yr oedd Dafydd wedi cyrraedd Mahanaim erbyn i Absalom a holl filwyr Israel gydag ef groesi'r Iorddonen.
25 Yr oedd Absalom wedi gosod Amasa dros y fyddin yn lle Joab. Yr oedd ef yn fab i ddyn o'r enw Ithra'r Ismaeliad, a oedd wedi priodi Abigal ferch Nahas, chwaer Serfia mam Joab.