1 Daeth Israel gyfan allan fel un, o Dan hyd Beerseba a thir Gilead, a galw cynulleidfa Israel at yr ARGLWYDD i Mispa.
2 Ymgasglodd arweinwyr byddin holl lwythau Israel yn gynulliad o bobl yr ARGLWYDD, pedwar can mil o wŷr traed yn dwyn cleddyf.
3 Clywodd y Benjaminiaid fod yr Israeliaid wedi mynd i fyny i Mispa. Gofynnodd yr Israeliaid, “Dywedwch sut y digwyddodd y fath gamwri.”
4 Atebodd y Lefiad, sef gŵr y ddynes a lofruddiwyd, “Yr oeddwn i a'm gordderch wedi mynd i Gibea Benjamin i letya;