3 Clywodd y Benjaminiaid fod yr Israeliaid wedi mynd i fyny i Mispa. Gofynnodd yr Israeliaid, “Dywedwch sut y digwyddodd y fath gamwri.”
4 Atebodd y Lefiad, sef gŵr y ddynes a lofruddiwyd, “Yr oeddwn i a'm gordderch wedi mynd i Gibea Benjamin i letya;
5 yna cododd dinasyddion Gibea yn f'erbyn ac amgylchynu'r tŷ liw nos, gan fwriadu fy lladd; treisiwyd fy ngordderch, a bu hi farw o'r herwydd.
6 Cymerais innau hi a'i thorri'n ddarnau a'u hanfon drwy bob rhan o diriogaeth Israel, oherwydd y mae'r treiswyr hyn wedi gwneud anlladrwydd ffiaidd yn Israel.
7 Chwi oll, bobl Israel, mynegwch eich barn a'ch cyngor yma'n awr.”
8 Cododd yr holl bobl fel un gŵr a dweud, “Ni ddychwel neb ohonom i'w babell na mynd yn ôl adref.
9 Dyma'r hyn a wnawn i Gibea: awn yn ei herbyn trwy fwrw coelbren;