30 cyn mynd i fyny'r trydydd dydd yn erbyn y Benjaminiaid ac ymgynnull yn eu rhengoedd o flaen Gibea fel cynt.
31 Gwnaeth y Benjaminiaid gyrch yn erbyn y fyddin, a denwyd hwy oddi wrth y dref; dechreusant wneud lladdfa ymysg y fyddin fel cynt, ac archolli tua deg ar hugain o'r Israeliaid yn y tir agored ger y priffyrdd i Fethel ac i Gibea.
32 Yr oedd y Benjaminiaid yn dweud, “Yr ydym yn eu trechu fel o'r blaen”; a'r Israeliaid yn dweud, “Fe giliwn er mwyn eu denu o'r dref i'r priffyrdd.”
33 Yna safodd yr Israeliaid a ffurfio'u rhengoedd ger Baal-tamar, a dyma'r Israeliaid oedd wedi ymguddio yn rhuthro o'u cuddfeydd i'r gorllewin o Gibea.
34 Daeth deng mil o filwyr dethol o Israel gyfan yn erbyn y Gibeaid o'r dwyrain; ond am fod brwydr chwyrn ar y pryd, ni wyddai'r Benjaminiaid fod trychineb yn dod arnynt.
35 Trawodd yr ARGLWYDD wŷr Benjamin o flaen yr Israeliaid, a'r diwrnod hwnnw lladdodd yr Israeliaid o blith Benjamin bum mil ar hugain ac un cant o wŷr yn dwyn cleddyf.
36 Gwelodd y Benjaminiaid eu bod wedi colli'r dydd. Yr oedd byddin Israel wedi ildio tir i'r Benjaminiaid am eu bod yn ymddiried yn y milwyr cudd a osodwyd ger Gibea.