9 Dyma'r hyn a wnawn i Gibea: awn yn ei herbyn trwy fwrw coelbren;
10 a dewiswn ddeg dyn o bob cant, cant o bob mil, a mil o bob myrddiwn trwy holl lwythau Israel, i gasglu lluniaeth i'r fyddin fydd yn mynd yn erbyn Gibea Benjamin o achos yr holl anlladrwydd a wnaethant yn Israel.”
11 Felly daeth yr holl Israeliaid at ei gilydd fel un yn erbyn y dref.
12 Anfonodd llwythau Israel ddynion drwy holl lwyth Benjamin gan ddweud, “Pa gamwri yw hwn a ddigwyddodd yn eich mysg?
13 Ildiwch y dihirod hyn sydd yn Gibea, inni eu rhoi i farwolaeth, a dileu'r drwg o Israel.” Ond ni fynnai'r Benjaminiaid wrando ar eu perthnasau yr Israeliaid.
14 Ymgasglodd y Benjaminiaid o'u trefi i Gibea er mwyn mynd i ryfel yn erbyn yr Israeliaid.
15 Ar y dydd hwnnw rhestrwyd o drefi'r Benjaminiaid chwe mil ar hugain o ddynion yn dwyn cleddyf, ar wahân i drigolion Gibea, a oedd yn rhestru saith gant o wŷr dethol.