1 Wedi marw'r Brenin Astyages, fe gymerodd Cyrus y Persiad ei orsedd.
2 Yr oedd Daniel yn byw gyda'r brenin, ac yn uwch ei anrhydedd na neb arall o Gyfeillion y Brenin.
3 Yr oedd gan y Babiloniaid eilun o'r enw Bel, a byddent yn darparu iddo bob dydd ddeuddeng mesur o beilliaid, deugain dafad, a chwe mesur o win.
4 Byddai'r brenin yn ei addoli, ac yn mynd bob dydd i ymgrymu iddo. Ond i'w Dduw ei hun y byddai Daniel yn ymgrymu.
5 Gofynnodd y brenin iddo, “Pam nad wyt yn ymgrymu i Bel?” Dywedodd yntau, “Nid eilunod o waith dwylo dynol yr wyf fi'n eu haddoli ond y Duw byw, Creawdwr nef a daear, ac Arglwydd pob peth byw.”
6 Meddai'r brenin, “Onid wyt yn credu bod Bel yn dduw byw? Oni weli di gymaint y mae'n ei fwyta ac yfed bob dydd?”
7 Atebodd Daniel dan chwerthin, “Paid â chymryd dy dwyllo, frenin. Clai yw hwn oddi mewn, a phres oddi allan; nid yw wedi bwyta nac yfed erioed.”