15 Aeth yr offeiriaid liw nos, yn ôl eu harfer, gyda'u gwragedd a'u plant, a bwyta ac yfed y cwbl.
16 Cododd y brenin yn fore iawn, a daeth â Daniel gydag ef.
17 Dyma'r brenin yn gofyn, “A yw'r seliau'n gyfan, Daniel?” “Ydynt, frenin,” atebodd ef.
18 A chyn gynted ag yr agorwyd y drws, edrychodd y brenin tua'r bwrdd, a gwaeddodd â llais uchel, “Mawr wyt ti, Bel. Nid oes dim twyll ynot, dim o gwbl.”
19 Ond chwerthin a wnaeth Daniel, ac atal y brenin rhag mynd i mewn. “Edrych ar y llawr,” meddai, “ac ystyria. Ôl traed pwy yw'r rhain?”
20 “Gwelaf ôl traed dynion a gwragedd a phlant,” atebodd y brenin.
21 Yn ei gynddaredd galwodd y brenin yr offeiriaid a'u gwragedd a'u plant ynghyd. A dyma hwythau'n dangos iddo'r drysau cudd y daethant i mewn drwyddynt i fwyta'r pethau oedd ar y bwrdd.