22 Yna lladdodd y brenin hwy, a rhoi Bel yn llaw Daniel. Dinistriodd yntau y duw a'i deml.
23 Yr oedd hefyd ddraig fawr a addolid gan y Babiloniaid.
24 Dywedodd y brenin wrth Daniel, “Ni fedri wadu nad yw hon yn dduw byw. Felly ymgryma iddi.”
25 Atebodd Daniel, “I'r Arglwydd fy Nuw yr ymgrymaf. Duw byw yw ef.
26 Ond dyro i mi awdurdod, frenin, ac mi laddaf y ddraig heb na chleddyf na ffon.” Dywedodd y brenin, “Yr wyf yn ei roi iti.”
27 Cymerodd Daniel byg a saim a blew, a'u berwi gyda'i gilydd a gwneud teisennau ohonynt; ac fe'u gosododd yng ngheg y ddraig. Bwytaodd hithau hwy, ac fe ffrwydrodd.
28 Dywedodd Daniel, “Edrychwch ar y pethau yr ydych yn eu haddoli.” Pan glywodd y Babiloniaid hyn, aethant yn ddig, a throi yn erbyn y brenin a dweud, “Y mae'r brenin wedi troi'n Iddew. Y mae wedi distrywio Bel, a lladd y ddraig, a rhoi'r offeiriaid i farwolaeth.”