27 Cymerodd Daniel byg a saim a blew, a'u berwi gyda'i gilydd a gwneud teisennau ohonynt; ac fe'u gosododd yng ngheg y ddraig. Bwytaodd hithau hwy, ac fe ffrwydrodd.
28 Dywedodd Daniel, “Edrychwch ar y pethau yr ydych yn eu haddoli.” Pan glywodd y Babiloniaid hyn, aethant yn ddig, a throi yn erbyn y brenin a dweud, “Y mae'r brenin wedi troi'n Iddew. Y mae wedi distrywio Bel, a lladd y ddraig, a rhoi'r offeiriaid i farwolaeth.”
29 Daethant at y brenin a dweud, “Traddoda Daniel i ni. Os na wnei, fe'th laddwn di a'th deulu.”
30 Pan welodd y brenin eu bod yn gwasgu'n daer arno, a'i fod mewn argyfwng, traddododd Daniel iddynt.
31 Taflasant hwythau ef i ffau'r llewod, ac yno y bu am chwe diwrnod.
32 Yr oedd saith llew yn y ffau, a rhoddid iddynt bob dydd ddau ddyn a dwy ddafad. Ond y tro hwn ni roddwyd dim iddynt, er mwyn sicrhau eu bod yn traflyncu Daniel.
33 Yr oedd y proffwyd Habacuc yn Jwdea. Yr oedd wedi berwi cawl, a malu briwsion bara yn y cawg, ac yr oedd ar ei ffordd i'r maes i'w ddwyn i'r medelwyr.