29 Daethant at y brenin a dweud, “Traddoda Daniel i ni. Os na wnei, fe'th laddwn di a'th deulu.”
30 Pan welodd y brenin eu bod yn gwasgu'n daer arno, a'i fod mewn argyfwng, traddododd Daniel iddynt.
31 Taflasant hwythau ef i ffau'r llewod, ac yno y bu am chwe diwrnod.
32 Yr oedd saith llew yn y ffau, a rhoddid iddynt bob dydd ddau ddyn a dwy ddafad. Ond y tro hwn ni roddwyd dim iddynt, er mwyn sicrhau eu bod yn traflyncu Daniel.
33 Yr oedd y proffwyd Habacuc yn Jwdea. Yr oedd wedi berwi cawl, a malu briwsion bara yn y cawg, ac yr oedd ar ei ffordd i'r maes i'w ddwyn i'r medelwyr.
34 Dywedodd angel yr Arglwydd wrth Habacuc, “Dos â'r bwyd sydd gennyt i Fabilon, at Daniel yn ffau'r llewod.”
35 “F'arglwydd,” meddai Habacuc, “ni welais i Fabilon erioed, ac ni wn ble mae'r ffau.”