36 Ond cymerodd angel yr Arglwydd ef gerfydd ei gorun, gan afael yng ngwallt ei ben, a thrwy nerth ei anadl gosododd ef ym Mabilon uwchben y ffau.
37 “Daniel, Daniel,” gwaeddodd Habacuc, “cymer y bwyd a anfonodd Duw iti.”
38 Atebodd Daniel, “Cofiaist amdanaf, O Dduw. Ni chefnaist ar y sawl sy'n dy garu.”
39 Cododd Daniel a bwyta. Yna aeth angel yr Arglwydd â Habacuc yn ôl ar unwaith i'w le ei hun.
40 Daeth y brenin ar y seithfed dydd i alaru am Daniel. Wedi dod at y ffau ac edrych i mewn, dyna lle'r oedd Daniel yn eistedd.
41 Gwaeddodd y brenin â llais uchel, “Mawr wyt ti, O Arglwydd Dduw Daniel! Nid oes Duw arall ond tydi.”
42 Yna tynnodd ef i fyny, a thaflodd i'r ffau y rhai oedd wedi ceisio achos i'w ladd. Ac ar unwaith fe'u traflyncwyd hwy o flaen ei lygaid.