3 ac arogl dy bersawr yn hyfryd,a'th enw fel persawr wedi ei wasgaru;dyna pam y mae merched yn dy garu.
4 Tyn fi ar dy ôl, gad inni redeg gyda'n gilydd;cymer fi i'th ystafell, O frenin.Gad inni lawenhau ac ymhyfrydu ynot,a chanmol dy gariad yn fwy na gwin;mor briodol yw iddynt dy garu!
5 O ferched Jerwsalem,er fy mod yn dywyll fy lliwfel pebyll Cedar neu lenni pebyll Solomon,yr wyf yn brydferth.
6 Peidiwch â rhythu arnaf am fy mod yn dywyll fy lliw,oherwydd i'r haul fy llosgi.Bu meibion fy mam yn gas wrthyf,a gwneud imi wylio'r gwinllannoedd;ond ni wyliais fy ngwinllan fy hun.
7 Fy nghariad, dywed wrthyfymhle'r wyt yn bugeilio'r praidd,ac yn gwneud iddynt orffwys ganol dydd.Pam y byddaf fel un yn crwydrowrth ymyl praidd dy gyfeillion?
8 O ti, y decaf o ferched,os nad wyt yn gwybod,yna dilyn lwybrau'r defaid,a bugeilia dy fynnodgerllaw pebyll y bugeiliaid.
9 F'anwylyd, yr wyf yn dy gyffelybui feirch cerbydau Pharo.