1 O ti, y decaf o ferched,ple'r aeth dy gariad?Pa ffordd yr aeth dy gariad,inni chwilio amdano gyda thi?
2 Fe aeth fy nghariad i lawr i'w ardd,i'r gwelyau perlysiau,i ofalu am y gerddi,ac i gasglu'r lilïau.
3 Yr wyf fi'n eiddo fy nghariad,ac yntau'n eiddof finnau;y mae'n bugeilio ymysg y lilïau.
4 Yr wyt yn brydferth fel Tirsa, f'anwylyd,yn hardd fel Jerwsalem,mor urddasol â llu banerog.