7 Y tu ôl i'th orchudd y mae dy arlaisfel darn o bomgranad.
8 Er bod trigain o freninesaua phedwar ugain o ordderchwragedd,a llancesau na ellir eu rhifo,
9 y mae fy ngholomen, yr un berffaith,ar ei phen ei hun,unig blentyn ei mam,y lanaf yng ngolwg yr un a esgorodd arni.Gwelodd y merched hi a'i galw'n ddedwydd,ac y mae breninesau a gordderchwragedd yn ei chlodfori.
10 Pwy yw hon sy'n ymddangos fel y wawr,yn brydferth fel y lloer, yn ddisglair fel yr haul,yn urddasol fel llu banerog?
11 Euthum i lawr i'w ardd gnaui edrych ar ffrwythau'r dyffryn,a gweld a oedd y winwydden yn blaguro,a blodau ar y pomgranadau.
12 Ni wyddwn y cawn fy rhoiyng ngherbydau perthnasau'r tywysog.
13 Tyrd yn ôl, tyrd yn ôl, Sulames!Tyrd yn ôl, tyrd yn ôl, gad inni dy weld.O fel yr hoffwch edrych ar y Sulamesyn dawnsio rhwng y rhengoedd!