4 Nid yn ôl eu dull hwy y gwnewch i'r ARGLWYDD eich Duw.
5 Yn hytrach ceisiwch y man y bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn ei ddewis o'ch holl lwythau yn drigfan i'w enw; yno y dewch,
6 a chyflwyno eich poethoffrymau a'ch aberthau, eich degymau a'ch cyfraniadau, eich addunedau a'ch offrymau gwirfodd, a chyntafanedig eich gwartheg a'ch defaid.
7 Yno gerbron yr ARGLWYDD eich Duw y byddwch chwi a'ch teuluoedd yn bwyta ac yn llawenhau ym mhopeth a wnewch, oherwydd i'r ARGLWYDD eich Duw eich bendithio.
8 Nid ydych i wneud yn union fel y gwnawn yma heddiw, lle y mae pawb yn gwneud fel y myn,
9 oherwydd nid ydych eto wedi cyrraedd yr orffwysfa a'r etifeddiaeth y mae'r ARGLWYDD eich Duw am eu rhoi ichwi.
10 Unwaith y byddwch dros yr Iorddonen ac yn byw yn y wlad y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi'n etifeddiaeth ichwi, cewch lonydd oddi wrth y gelynion o'ch cwmpas, a byddwch yn byw mewn diogelwch.