6 Ar dystiolaeth dau dyst neu dri y rhoir i farwolaeth; ni roir i farwolaeth ar dystiolaeth un tyst.
7 Dwylo'r tystion sydd i daflu'r garreg gyntaf i'w ddienyddio, a dwylo'r holl boblogaeth wedyn; felly y byddi'n dileu'r drwg o'ch mysg.
8 Os cei yn dy dref achos llys sy'n rhy ddyrys iti, megis dyfarnu rhwng dwy blaid mewn achos o ddial gwaed, neu hawl, neu ymosod, yna dos yn ddi-oed i'r man y bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn ei ddewis,
9 a gofyn yno i'r offeiriaid o Lefiaid, ac i'r barnwr a fydd yn y dyddiau hynny, roi'r ddedfryd iti.
10 Gwna fel y byddant hwy yn dweud wrthyt yn y man y bydd yr ARGLWYDD yn ei ddewis, a gofala wneud popeth yn ôl y cyfarwyddyd a roddant iti.
11 Yr wyt i weithredu yn ôl y cyfarwyddyd a gei ganddynt a'r dyfarniad a roddant, heb wyro i'r dde nac i'r chwith oddi wrth yr hyn a ddywedant wrthyt.
12 Pwy bynnag sy'n ddigon rhyfygus i beidio â gwrando ar yr offeiriad sy'n gweinyddu yno dros yr ARGLWYDD dy Dduw, neu ar y barnwr, bydded farw; felly y byddi'n dileu'r drwg o Israel.