15 Os bydd gan ŵr ddwy wraig, y naill yn annwyl a'r llall yn atgas ganddo, a'r ddwy wedi geni meibion iddo, a'r cyntafanedig yn fab i'r un atgas,
16 yna pan fydd yn rhannu ei stad rhwng ei feibion, ni chaiff roi'r flaenoriaeth i fab y wraig annwyl, ar draul y cyntafanedig sy'n fab i'r un atgas.
17 Y mae i gydnabod y cyntafanedig sy'n fab i'r un atgas trwy roi iddo ran ddwbl o'r cwbl sydd ganddo, gan mai ef yw blaenffrwyth ynni ei dad, ac ef biau hawl y cyntafanedig.
18 Os bydd gan rywun fab gwrthnysig ac anufudd, na fyn wrando ar ei dad na'i fam, hyd yn oed pan fyddant yn ei geryddu,
19 y mae ei dad a'i fam i afael ynddo a'i ddwyn gerbron yr henuriaid ym mhorth ei dref,
20 a dweud wrthynt, “Y mae'r mab hwn yn wrthnysig ac anufudd; ni fyn wrando arnom, ac y mae'n un glwth ac yn feddwyn.”
21 Yna bydd holl drigolion ei dref yn ei labyddio'n gelain â cherrig. Felly byddi'n dileu'r drwg o'ch plith, a bydd Israel gyfan yn clywed ac yn ofni.