5 Yna daw'r offeiriaid, meibion Lefi, ymlaen, gan mai hwy y mae'r ARGLWYDD dy Dduw wedi eu dewis i'w wasanaethu ac i fendithio yn ei enw, ac yn ôl eu dedfryd hwy y terfynir pob ymryson ac ysgarmes.
6 A bydd holl henuriaid y dref agosaf at y corff yn golchi eu dwylo uwchben yr heffer y torrwyd ei gwegil yn y dyffryn,
7 a thystio, “Nid ein dwylo ni a dywalltodd y gwaed hwn, ac ni welodd ein llygaid mo'r weithred.
8 Derbyn gymod dros dy bobl Israel, y rhai a waredaist, O ARGLWYDD; paid â gosod arnynt hwy gyfrifoldeb am waed y dieuog.” Felly, gwneir cymod am y gwaed.
9 Byddi'n dileu'r cyfrifoldeb am waed dieuog o'ch mysg wrth iti wneud yr hyn sy'n iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD.
10 Pan fyddi'n mynd allan i ryfel yn erbyn d'elynion, a'r ARGLWYDD dy Dduw yn eu rhoi yn dy law, a thithau'n cymryd carcharorion,
11 ac yn gweld yn eu mysg ddynes brydferth wrth dy fodd, cei ei phriodi.