6 Yna bu'r Eifftiaid yn ein cam-drin a'n cystuddio a'n cadw mewn caethiwed caled.
7 Wedi inni weiddi ar yr ARGLWYDD, Duw ein hynafiaid, fe glywodd ein cri, a gwelodd ein cystudd a'n llafur caled a'n gorthrwm.
8 Daeth â ni allan o'r Aifft â llaw gadarn a braich estynedig, a chyda dychryn mawr a chydag arwyddion a rhyfeddodau.
9 Daeth â ni i'r lle hwn, a rhoi inni'r wlad hon, gwlad yn llifeirio o laeth a mêl.
10 Ac yn awr dyma fi'n dod â blaenffrwyth cnydau'r tir a roddaist imi, O ARGLWYDD.” Rho'r cawell i lawr gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw, a moesymgryma o'i flaen.
11 Yr wyt ti a'r Lefiad, a'r dieithryn fydd yno gyda thi, i lawenhau am yr holl bethau da a roddodd yr ARGLWYDD dy Dduw i ti a'th deulu.
12 Pan fyddi wedi gorffen degymu dy holl gynnyrch yn y drydedd flwyddyn, sef blwyddyn y degwm, rho ef i'r Lefiad, y dieithryn, yr amddifad a'r weddw, iddynt gael bwyta'u gwala yn dy drefi.