13 A dyma'r rhai sydd i sefyll ar Fynydd Ebal i felltithio: Reuben, Gad, Aser, Sabulon, Dan a Nafftali.”
14 Bydd y Lefiaid yn cyhoeddi wrth holl bobl Israel â llais uchel:
15 “Melltith ar y sawl a wna ddelw gerfiedig neu eilun tawdd, a gosod i fyny'n ddirgel bethau o waith dwylo crefftwr, pethau sy'n ffiaidd gan yr ARGLWYDD.” Y mae'r holl bobl i ateb, “Amen.”
16 “Melltith ar y sawl sy'n dirmygu ei dad neu ei fam.” Y mae'r holl bobl i ddweud, “Amen.”
17 “Melltith ar y sawl sy'n symud terfyn ei gymydog.” Y mae'r holl bobl i ddweud, “Amen.”
18 “Melltith ar y sawl sy'n camarwain y dall.” Y mae'r holl bobl i ddweud, “Amen.”
19 “Melltith ar y sawl sy'n gwyro barn yn erbyn estron, amddifad neu weddw.” Y mae'r holl bobl i ddweud, “Amen.”