19 Galwant bobloedd allan i'r mynydd-dir,ac yno offrymu aberthau cywir.Yn wir, cânt sugno golud y môr,a thrysorau wedi eu cuddio yn y tywod.
20 Dywedodd am Gad:Bendith ar yr hwn sy'n peri i Gad ymestyn!Y mae fel llew yn ei diriogaeth,yn rhwygo ymaith fraich a chorun.
21 Gofalodd am y gorau iddo'i hun;cadwyd cyfran llywodraethwr ar ei gyfer.Daeth â phenaethiaid y bobl allan;gweithredodd gyfiawnder yr ARGLWYDD,a'i ddeddfau ynglŷn ag Israel.
22 Dywedodd am Dan:Cenau llew yw Dan,yn neidio allan o Basan.
23 Dywedodd am Nafftali:Cyflawn o hawddgarwch fydd Nafftali,a llawn o fendith yr ARGLWYDD;bydd ei etifeddiaeth at y môr ac i'r de.
24 Dywedodd am Aser:Bydded i Aser gael ei fendithio'n fwy na'r meibion eraill,a bod yn ffefryn gan ei frodyr,yn trochi ei droed mewn olew.
25 Bydded dy farrau o haearn a phres,a'th gryfder yn cydredeg â'th ddyddiau.