4 ond yr ydych chwi i gyd sydd wedi glynu wrth yr ARGLWYDD eich Duw yn fyw hyd heddiw.
5 Gwelwch fy mod wedi dysgu ichwi'r deddfau a'r cyfreithiau, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD fy Nuw imi, er mwyn ichwi eu cadw yn y wlad yr ydych yn mynd i mewn i'w meddiannu.
6 Gofalwch eu cadw, oherwydd dyma fydd eich doethineb a'ch deall yng ngolwg y bobloedd; a phan glywant hwy y deddfau hyn, byddant yn dweud, “Yn wir pobl ddoeth a deallus yw'r genedl fawr hon.”
7 Yn wir pa genedl fawr sydd a chanddi dduw mor agos ati ag yw'r ARGLWYDD ein Duw ni bob tro y byddwn yn galw arno?
8 A pha genedl fawr sydd a chanddi ddeddfau a chyfreithiau mor gyfiawn â'r holl gyfraith hon yr wyf yn ei gosod o'ch blaen heddiw?
9 Bydd ofalus, a gwylia'n ddyfal rhag iti anghofio'r pethau a welodd dy lygaid, a rhag iddynt gilio o'th feddwl holl ddyddiau dy fywyd; dysga hwy i'th blant ac i blant dy blant.
10 Y dydd pan oeddit ti yn sefyll o flaen yr ARGLWYDD dy Dduw yn Horeb, fe ddywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Cynnull y bobl ataf, a chyhoeddaf iddynt fy ngeiriau, er mwyn iddynt ddysgu fy ofni holl ddyddiau eu bywyd ar y ddaear, a bydded iddynt ddysgu eu plant i wneud hyn.”