23 Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn eu darostwng o'ch blaenau, ac yn dwyn arnynt ddryswch mawr nes eu dinistrio.
24 Bydd yn rhoi eu brenhinoedd yn eich llaw, a byddwch yn dileu eu henwau o dan y nefoedd; ni all unrhyw un eich gwrthsefyll nes i chwi eu dinistrio.
25 Yr ydych i losgi delwau eu duwiau yn y tân; nid ydych i chwennych eu harian a'u haur, na'u cymryd, rhag iddynt fod yn fagl ichwi, oherwydd y maent yn ffieidd-dra i'r ARGLWYDD eich Duw.
26 Nid ydych i ddwyn i'ch tŷ unrhyw ffieidd-dra, rhag i chwi fynd yn beth i'w ddifrodi fel yntau; yr ydych i'w ddirmygu'n llwyr a'i ffieiddio, oherwydd peth i'w ddifrodi ydyw.