1 Paid ag ymffrostio ynglŷn ag yfory,oherwydd ni wyddost beth a ddigwydd mewn diwrnod.
2 Gad i ddieithryn dy ganmol, ac nid dy enau dy hun;un sy'n estron, ac nid dy wefusau dy hun.
3 Y mae pwysau mewn carreg, a thywod yn drwm,ond y mae casineb y ffŵl yn drymach na'r ddau.
4 Y mae dicter yn greulon, a digofaint fel llifeiriant,ond pwy a all sefyll o flaen cenfigen?
5 Y mae cerydd agoredyn well na chariad a guddir.
6 Y mae dyrnodiau cyfaill yn ddidwyll,ond cusanau gelyn yn dwyllodrus.