9 Y mae olew a phersawr yn llawenhau'r galon,a mwynder cyfaill yn cyfarwyddo'r enaid.
10 Paid â chefnu ar dy gyfaill a chyfaill dy rieni,a phaid â mynd i dŷ dy frawd yn nydd dy adfyd.Y mae cyfaill agos yn well na brawd ymhell.
11 Fy mab, bydd ddoeth, a llawenha fy nghalon;yna gallaf roi ateb i'r rhai sy'n fy amharchu.
12 Y mae'r craff yn gweld perygl ac yn ei osgoi,ond y mae'r gwirion yn mynd rhagddo ac yn talu am hynny.
13 Cymer wisg y sawl sy'n mynd yn feichiau dros ddyn dieithr,a chadw hi'n ernes o'i addewid ar ran dieithryn.
14 Y mae'r un sy'n bendithio'i gyfaill â llef uchel,ac yn codi'n fore i wneud hynny,yn cael ei ystyried yn un sy'n ei felltithio.
15 Diferion parhaus ar ddiwrnod glawog,tebyg i hynny yw gwraig yn cecru;