6 I bwy y datguddiwyd gwreiddyn doethineb?Pwy sy'n deall ei dyfeisiau hi?
8 Y mae Un sy'n ddoeth, ac i'w ofni'n ddirfawr,Un sy'n eistedd ar ei orsedd—
9 ef yw'r Arglwydd, ac ef a greodd ddoethineb;ef a'i canfu hi, a'i dosrannu,a'i harllwys ar ei holl weithredoedd.
10 I bob un y mae cyfran ohoni, yn ôl ei roddiad ef,ond rhoddodd yn hael ohoni i'r rhai sy'n ei garu.
11 Y mae ofn yr Arglwydd yn achos anrhydedd ac ymffrost,llawenydd a thorch gorfoledd.
12 Bydd ofn yr Arglwydd yn llonni'r galon,yn rhoi llawenydd a dedwyddwch a hir ddyddiau.
13 Y sawl sy'n ofni'r Arglwydd, da fydd ei ran yn y diwedd,ac yn nydd ei farwolaeth fe'i bendithir.