4 Yn llaw'r Arglwydd y mae awdurdod ar y ddaear,ac ef, yn yr amser priodol, fydd yn gosod un cymwys yn ben arni.
5 Yn llaw'r Arglwydd y mae ffyniant pawb,ac ef sy'n gosod ei anrhydedd ar berson y deddfwr.
6 Paid â digio wrth dy gymydog am bob rhyw gam,a phaid â gwneud dim trwy weithredoedd rhyfygus.
7 Casbeth yng ngolwg yr Arglwydd a phobl yw balchder,a gwrthun gan y naill a'r llall yw anghyfiawnder.
8 Symudir y frenhiniaeth o'r naill genedl i'r llallo achos anghyfiawnder a rhyfyg ac ariangarwch.
9 Pam yr ymfalchïa llwch a lludw?Oherwydd yswyd ei gorff gan bryfed, ac yntau'n fyw.
10 Y mae afiechyd hir yn gwawdio gallu'r meddyg;gall dyn fod yn frenin heddiw ac yn farw yfory.