4 Rho i'r duwiol, ond paid â chynorthwyo'r pechadur.
5 Gwna dda i'r gostyngedig, a phaid â rhoi i'r annuwiol.Atal iddo ei fara, a phaid â rhoi iddo,rhag iddo drwyddo fynd yn feistr arnat.Oherwydd cei ganddo ddwywaith cymaint o ddrwg yn dâlam yr holl ddaioni a wnaethost iddo ef.
6 Y mae'r Goruchaf yntau'n casáu pechaduriaid,ac yn talu i'r annuwiol y gosb a haeddant.
7 Rho i'r da, ond paid â chynorthwyo'r pechadurus.
8 Nid mewn hawddfyd y cosbir cyfaill;ac mewn adfyd ni fydd gelyn yn ymguddio.
9 Pan yw'n hawddfyd ar rywun mae ei elynion yn drist,a phan yw'n adfyd arno mae hyd yn oed ei gyfaill yn pellhau oddi wrtho.
10 Paid byth ag ymddiried yn dy elyn,oherwydd y mae ei ddrygioni'n difa fel rhwd ar bres.