1 Y sawl sy'n cyffwrdd â phyg, fe'i baeddir,a'r sawl sy'n cymdeithasu â'r balch, fe â'n debyg iddo.
2 Paid â chodi baich sy'n rhy drwm iti,a phaid â chymdeithasu â rhywun cryfach a chyfoethocach na thi.Sut y mae llestr pridd i gymdeithasu â chrochan haearn,ac yntau o daro'r crochan yn chwalu'n chwilfriw?
3 Bydd y cyfoethog yn gwneud cam, ac ef fydd uchaf ei gloch;bydd yn tlawd yn cael cam, ac ef fydd yn crefu am bardwn.
4 Os gelli fod o les iddo, bydd y cyfoethog yn dy ddefnyddio;ond os byddi mewn angen, dy anwybyddu y bydd.
5 Os bydd rhywbeth gennyt wrth gefn, fe ddaw i fyw gyda thi,a'th ddisbyddu'n llwyr heb boeni dim.