5 Os bydd rhywbeth gennyt wrth gefn, fe ddaw i fyw gyda thi,a'th ddisbyddu'n llwyr heb boeni dim.
6 Pan fydd arno d'eisiau, dy dwyllo a wna,a gwenu arnat a meithrin gobaith ynot;fe sieryd yn deg â thi a gofyn, “Beth sydd arnat ei eisiau?”
7 Fe gwyd gywilydd arnat â'i fwydydd ei hun,nes dy ddisbyddu'n llwyr ddwywaith neu dair;ac yn y diwedd bydd yn chwerthin am dy ben.Ar ôl hyn oll, pan wêl di, fe'th anwybydda,ac ysgwyd ei ben arnat.
8 Gwylia rhag dy gamarwainna'th ddarostwng yn dy ffolineb.
9 Paid â bod yn rhy barod i dderbyn gwahoddiad gan lywodraethwr,a bydd yntau gymaint â hynny'n daerach ei wahoddiad.
10 Paid ag ymwthio arno, rhag iddo dy wthio ymaith;ond paid â sefyll yn rhy bell, rhag iddo dy anghofio.
11 Paid â beiddio siarad ag ef fel un cydradd,a phaid ag ymddiried yn amlder ei eiriau,oherwydd rhoi prawf arnat y bydd â'i siarad hir,a'th chwilio a gwên ar ei wyneb.