10 Fel diferyn o ddŵr y môr neu ronyn o dywody mae ei ychydig flynyddoedd yn ymyl dydd tragwyddoldeb.
11 Dyna pam y mae'r Arglwydd yn ymarhous wrthyntac yn tywallt ei drugaredd arnynt.
12 Gwelodd, a gwybu enbydrwydd eu hargyfwng;am hynny maddeuodd yn fwy helaeth iddynt.
13 Ei gymydog yw gwrthrych tosturi rhywun,ond y mae pawb yn wrthrych trugaredd yr Arglwydd;y mae'n ceryddu, yn hyfforddi, yn dysgu,ac yn eu dwyn yn ôl, fel bugail ei braidd.
14 Y mae'n trugarhau wrth y rhai sy'n derbyn disgyblaeth,ac wrth y rhai sy'n dyfal geisio ei ddyfarniadau.
15 Fy mab, paid â chlymu cerydd wrth dy gymwynas,na geiriau cas wrth yr un o'th roddion.
16 Onid yw'r gwlith yn lleddfu'r gwres tanbaid?Felly trech gair na rhodd.