24 Cofia'r digofaint a wynebi yn nyddiau dy ddiwedd,yn amser dial Duw, pan dry ymaith ei wyneb.
25 Yn amser digonedd, cofia amser newyn,ac yn nyddiau cyfoeth, cofia amser tlodi ac angen.
26 Gall dy ragolygon newid rhwng bore a hwyr;y mae popeth ar garlam, pan ewyllysia'r Arglwydd.
27 Bydd y doeth ar ei wyliadwriaeth bob amser;mewn dyddiau o bechod bydd yn ofalus rhag troseddu.
28 Y mae pob un deallus yn ymgydnabod â doethineb,a rhydd hi achos diolch i'r sawl a'i cafodd.
29 Y mae'r rhai sy'n fedrus ar eiriau hwythau'n ennill doethineb,ac yn llunio diarhebion cywrain yn llif.
30 Paid â dilyn dy chwantau,ond ymatal rhag porthi dy flysiau.