28 Y mae pob un deallus yn ymgydnabod â doethineb,a rhydd hi achos diolch i'r sawl a'i cafodd.
29 Y mae'r rhai sy'n fedrus ar eiriau hwythau'n ennill doethineb,ac yn llunio diarhebion cywrain yn llif.
30 Paid â dilyn dy chwantau,ond ymatal rhag porthi dy flysiau.
31 Os rhoddi i ti dy hun bopeth a fyn dy chwant,fe'th wna di'n gyff gwawd dy elynion.
32 Paid â gloddesta mewn moethusrwydd mawr,rhag iti gael dy dlodi gan gost y wledd.
33 Ymgadw rhag mynd yn dlawd trwy hel nwyddau gwledd ar goel,a thithau heb ddim yn dy bwrs.