6 Profiad helaeth yw coron yr oedrannus,ac ofn yr Arglwydd yw eu hymffrost.
7 Y mae naw peth sy'n wynfydedig yn fy meddwl,a'r degfed yr wyf am ei draethu ar lafar:dyn yn cael llawenydd yn ei blant;dyn yn byw i weld cwymp ei elynion;
8 gwyn ei fyd y gŵr a chanddo wraig ddeallus yn ei gartref,a'r sawl na lithrodd â'i dafod;a'r sawl na fu'n was i feistr annheilwng ohono;
9 gwyn ei fyd y sawl a gafodd hyd i ddealltwriaeth;a'r sawl sy'n traethu yng nghlyw rhai sy'n gwrando arno.
10 Mor fawr yw'r sawl a ddaeth o hyd i ddoethineb!Ond nid oes neb mwy na'r sawl sy'n ofni'r Arglwydd.
11 Y mae ofn yr Arglwydd yn rhagori ar bopeth;pwy sydd i'w gymharu â'r sawl sydd â'i afael arno?
13 Unrhyw glwyf ond clwyf i'r galon!Unrhyw falais ond malais gwraig!