7 Y mae gwraig faleisus fel iau anesmwyth,a dal gafael ynddi fel cydio mewn ysgorpion.
8 Peri dicter mawr y mae gwraig feddw;ni all guddio'i gwarth ei hun.
9 Y mae puteindra gwraig i'w weld yn ehofndra'i llygaid,ac i'w ganfod yn ei hamrannau.
10 Cadw wyliadwriaeth gyson ar ferch anhydrin,rhag iddi fanteisio ar dy ddiofalwch er ei niwed ei hun.
11 Gwylia am ei hedrychiad digywilydd,a phaid â rhyfeddu os tramgwydda yn dy erbyn.
12 Bydd yn agor ei cheg fel teithiwr sychedig,ac yn yfed o bob rhyw ddŵr sydd wrth law;bydd yn eistedd gyferbyn â phob rhyw fachyn,ac yn agor ei chawell i bob rhyw saeth.
13 Y mae swyn gwraig yn llonni ei gŵr,a'i medr yn rhoi cnawd ar ei esgyrn.