1 Y mae'r trugarog yn rhoi benthyg i'w gymydog,ac wrth estyn ei law i'w gynnal y mae'n cadw'r gorchmynion.
2 Rho fenthyg i'th gymydog yn awr ei angen,a thâl dithau'n ôl i'th gymydog yn ei iawn bryd.
3 Gwiredda dy air a chadw gyfamod ag ef,a chei ddigon bob amser at dy angen.
4 Y mae llawer yn ystyried cael ar fenthyg yn gael i gadw,ac yn peri blinder i'r rhai a wnaeth y gymwynas â hwy.
5 Hyd nes iddo gael, bydd rhywun yn cusanu llaw ei gymydog,ac yn sôn am arian hwnnw â goslef o barch;ond pan ddaw'n amser ad-dalu y mae'n oedi ac oedi,heb dalu dim yn ôl ond geiriau didaro,gan gwyno bod yr amser yn brin.