15 Paid ag anghofio caredigrwydd dy fechnïwr,oherwydd fe roes ei fywyd er dy fwyn.
16 Y pechadurus fydd yn dymchwel llwyddiant ei fechnïwr,a'r diddiolch fydd yn gollwng dros gof y sawl a'i gwaredodd.
17 Dinistriodd mechnïaeth lawer a rai cefnog,a'u siglo fel y gwna tonnau'r môr;
18 gyrrodd rai nerthol o'u cartrefii grwydro mewn gwledydd estron.
19 Pan fydd pechadur yn ymrwymo i fechnïaetha'i fryd ar elw, ymrwymo y bydd i achosion llys.
20 Cynorthwya dy gymydog hyd eithaf dy allu,ond gwylia rhag i ti gael dy ddal gan d'ymrwymiad.
21 Hanfodion bywyd yw dŵr a bara a dillad,a thŷ fydd yn lloches rhag anwedduster.