17 Dinistriodd mechnïaeth lawer a rai cefnog,a'u siglo fel y gwna tonnau'r môr;
18 gyrrodd rai nerthol o'u cartrefii grwydro mewn gwledydd estron.
19 Pan fydd pechadur yn ymrwymo i fechnïaetha'i fryd ar elw, ymrwymo y bydd i achosion llys.
20 Cynorthwya dy gymydog hyd eithaf dy allu,ond gwylia rhag i ti gael dy ddal gan d'ymrwymiad.
21 Hanfodion bywyd yw dŵr a bara a dillad,a thŷ fydd yn lloches rhag anwedduster.
22 Gwell yw byw'n dlawd mewn cwt o brenna chael danteithion moethus dan do dieithriaid.
23 Boed gennyt ychydig neu lawer, bydd fodlon arno,a phaid ag ennill enw fel un sy'n hel tai.