22 Gwell yw byw'n dlawd mewn cwt o brenna chael danteithion moethus dan do dieithriaid.
23 Boed gennyt ychydig neu lawer, bydd fodlon arno,a phaid ag ennill enw fel un sy'n hel tai.
24 Bywyd gwael yw crwydro o dŷ i dŷheb feiddio agor dy geg am mai dieithryn wyt yno.
25 Cei weini ar y lletywyr, a llenwi eu cwpanau, yn gwbl ddiddiolch,heb sôn am ufuddhau i'w galwadau croch:
26 “Tyrd yma, ddieithryn, gosod y bwrdd,gad imi flasu beth bynnag sydd yn dy law.”
27 “Ffwrdd â thi, ddyn dieithr, rho dy le i'th well;mae fy mrawd am gael llety; mae angen y tŷ arnaf.”
28 Profiad caled yw hwn i ddyn deallus:cael cerydd gan y teulu, a sarhad gan fenthyciwr arian.