13 Disgybla dy fab, a chymer drafferth ag ef,rhag i'w ymddygiad anweddus fod yn dramgwydd iti.
14 Gwell bod yn dlwad ac iach a chryf o gyfansoddiadna bod yn gyfoethog a chystuddiedig o gorff.
15 Y mae iechyd a chyfansoddiad cryf yn well na'r aur i gyd,a chorff nerthol na golud difesur.
16 Nid oes cyfoeth gwell na iechyd corffna llonder llawnach na llawenydd calon.
17 Gwell marwolaeth na bywyd o drueni,a gorffwys tragwyddol nag afiechyd sy'n parhau.
18 Y mae tywallt danteithion gerbron rhywun a'i geg wedi ei chaufel gosod offrymau o fwyd ar fedd.
19 Pa les yw offrwm i eilun,ac yntau heb allu blasu nac arogli dim?Dyna gyflwr y sawl a gystuddir gan yr Arglwydd.