1 Gŵr nerthol mewn rhyfel oedd Josua fab Nun,olynydd Moses yn ei swydd broffwydol.Bu cystal â'i enw,yn rymus i roi gwaredigaeth i etholedigion yr Arglwydd,ac i ddial ar y gelynion a godai yn eu herbyn,er mwyn sicrhau ei hetifeddiaeth i Israel.
2 Mor ogoneddus ydoedd wrth godi ei ddwyloa chwifio'i gleddyf wrth ymosod ar ddinasoedd!
3 Pwy o'i flaen ef a safodd mor gadarn?Oherwydd ymladd rhyfeloedd yr Arglwydd yr oedd ef.
4 Onid ei fraich ef a ataliodd yr haul,ac estyn un dydd dros ddau?